Session 6: Use of Welsh

Jane Smith, 37 Ffordd Penarth Uchaf, Caerdydd: ffôn (029) 716592

        Jane Smith, 37 Upper Penarth Road, Cardiff: phone (029) 716592

AMCAN

         OBJECTIVE

Hoffwn weithio fel gwyddonydd amgylcheddol yng Nghymru

         I wish to work as an environmental scientist in Wales

Mae gen i sgiliau labordy ac ymchwil ymarferol da

         I have good practical laboratory and research skills

Rwy`n mwynhau casglu data yng nghefn gwlad

         I enjoy collecting data in the countryside

ADDYSG

         EDUCATION

Prifysgol Bangor (2013 - 2016) Baglor mewn Gwyddoniaeth: cemeg a daearyddiaeth

         Bangor University (2013 - 2016) Bachelor of Science: chemistry and geography

Modiwlau mewn ansawdd dŵr, gwyddor pridd, cemeg yr atmosffer

         Modules in water quality, soil science, chemistry of the atmosphere

Ysgol Uwchradd Margaret Thatcher, Llundain

         Margaret Thatcher High School, London

Pynciau lefel uwch: Daearyddiaeth, cemeg, mathemateg

         A-level subjects: Geography, chemistry, mathematics

CYFLOGAETH

         EMPLOYMENT

2016 - 2020 Gwasanaethau Amgylcheddol Edwards, Caerdydd

         2016 - 2020 Edwards Environmental Services, Cardiff

Cynorthwyydd labordy, sy`n gyfrifol am gasglu a phrofi samplau dŵr o afonydd yn ardal Caerdydd

         Laboratory assistant, responsible for collecting and testing water samples from rivers in the Cardiff area

Cymerais ran mewn prosiect i wirio ansawdd y dŵr ym Mae Caerdydd

         I took part in a project to check the water quality in Cardiff Bay

SGILIAU

         SKILLS

Yn gallu gweithredu ystod eang o offer labordy

         Able to operate a wide range of laboratory equipment

Sgiliau da wrth ddefnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i gynhyrchu graffiau ac ystadegau

         Good skills in using computer software to produce graphs and statistics

Yn gallu cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig o safon uchel sy`n addas i`w cyhoeddi

         Can produce written reports of a high standard which are suitable for publication